Cyfnod y Nadolig drosodd, a nôl yn y cyfrwy - mwy neu lai, am fod fy nai yn aros efo ni am yr wythnos, felly fydd 'nam fawr o lonydd yn fan hyn! Ond amser clirio pen a bwrw ati - blwyddyn dylai fod yn gyffrous iawn i SSi, yn enwedig os bydd ymdrechion hysbysebu … Parhewch i ddarllen Blwyddyn newydd fawr o’n blaenau
Categori: y Gymraeg
Cynnig i’r 5 busnes cyntaf i gefnogi #SaveSaithSeren
Mae 10 diwrnod ar ôl i ni achub Saith Seren. Mae angen codi tua £900 y mis yn rhagor (wedi cyrraedd oddeutu £2100 yn barod). Rydym bellach yn chwilio am 5 busnes Cymraeg i ymrwymo £100 y mis. Dim ond 5, achos am y £100 bydd pob un o'r 5 busnes yn cael: Hysbyseb amlwg … Parhewch i ddarllen Cynnig i’r 5 busnes cyntaf i gefnogi #SaveSaithSeren
Pam dwi wedi ymrwymo £10 y mis i #SaveSaithSeren
Dwi ddim yn byw yn Wrecsam. Dwi ddim yn byw yn agos i Wrecsam. Y gwir ydi, prin iawn bydda i hyd yn oed yn ymweld â Wrecsam, er bod gen i ffrindiau da acw. Pam, felly, talu £10 y mis i gadw Saith Seren (y ganolfan Gymraeg a thafarn cyd-weithredol) yn agored? Mae'n agos … Parhewch i ddarllen Pam dwi wedi ymrwymo £10 y mis i #SaveSaithSeren
Cais diddorol iawn ar greu rhwydwaith – a gwir gwerth methiannau
Wedi rhywfaint o fwydro cychwynnol yn fan hyn am bwysigrwydd cysylltu pobl, fydd o ddim yn dy synnu di i mi fod wrth fy modd o weld syniad newydd yn ymddangos ar Twitter heddiw - @YRhwydwaith sydd yn arwain at http://yrhwydwaith.com - er mwyn 'hyrwyddo cynnwys digidol Cymraeg'. Mae'r syniad wedi'i ddatblygu gan Huw Marshall o S4C, … Parhewch i ddarllen Cais diddorol iawn ar greu rhwydwaith – a gwir gwerth methiannau
Beth fyddai’r pwrpas cysylltu pobl gyda’i gilydd? Beth sydd i’w ennill o’i wneud?
Yn y post blaenorol, cychwynnais ar hyd llwybr yn gofyn sut fath o beth byddai rhyddid y mae modd i ni gymryd heb ganiatad neb arall - a'r fan gychwyn roeddwn yn cynnig oedd yr angen i gysylltu pobl gyda'i gilydd. Yn amlwg, mae pawb wedi'i gysylltu mewn rhyw ffordd yn barod - cysylltiadau ydy … Parhewch i ddarllen Beth fyddai’r pwrpas cysylltu pobl gyda’i gilydd? Beth sydd i’w ennill o’i wneud?
Sut fath o beth fyddai rhyddid pe tasen ni’n ei gymryd heb ofyn?
Do, diolch, dw i wedi cael y busnes Steddfod 'na allan o fy sustem, diolch i sylwadau clên rhai pobl dw i'n eu parchu yn fawr iawn - felly nôl at brif reswm bodolaeth y blog hwn, sef codi syniadau am gamau ymarferol 'er mwyn ennill' - dim bod ystyr ennill bob tro yn hollol … Parhewch i ddarllen Sut fath o beth fyddai rhyddid pe tasen ni’n ei gymryd heb ofyn?
Faint o oriau cwsg sy’n cael eu colli dros y Gymraeg yn genedlaethol?
Dan ni'n mesur bob math o batrymau iechyd eraill - gorbwysdra, ymarfer corff, pwysau gwaed - ond tybed faint o oriau cwsg (un o'r pethau pwysicaf i fywyd cynhyrchiol a hapus) sy'n diflannu wrth i bobl bendroni am ddyfodol ein hiaith, a dyfodol ein plant sydd yn ei siarad? Dyma hi'n chwarter i bump bore … Parhewch i ddarllen Faint o oriau cwsg sy’n cael eu colli dros y Gymraeg yn genedlaethol?
Beth ydi pwrpas ysgrifennu yn y Gymraeg?
Dim o ran llyfrau neu bapurau bro neu gylchgronau neu ffurflenni neu arwyddion - yn y byd cyfoes, mae iaith heb bresenoldeb gweledol yn gorfod bod yn is-raddol. Yr hyn dw i'n holi fy hun ydy beth ydy pwrpas i mi ysgrifennu blog yn y Gymraeg? Dywedais yn y cofnod cyntaf fod o'n iawn - … Parhewch i ddarllen Beth ydi pwrpas ysgrifennu yn y Gymraeg?
Pa beth yr aethoch allan i’w achub?
Roedd hi'n braf iawn gweld Seimon Brooks a Richard Glyn yn lawnsio'r gyfrol maen nhw wedi'i golygu a'i chyhoeddi yn ddiweddar, 'Pa beth yr aethoch allan i'w achub?', yn y Penlan Fawr ym Mhwllheli neithiwr - tafarn sydd ag un o'r awyrgylchoedd mwyaf hyfryd o Gymraeg yn y wlad gyfan, am wn i. Dim ond … Parhewch i ddarllen Pa beth yr aethoch allan i’w achub?