Aran Jones ydw i, yn briod i Catrin Lliar, yn dad i Angharad Lliar a Beuno Llŷn, yn gyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr y cwmni iaith http://www.SaySomethingin.com, ac yn awdur y SaySomethingin Method.
Dwi’n defnyddio’r blog hwn fel math o ddyddiadur i gadw trac ar y pethau dwi’n meddwl amdanyn nhw, ac i orfodi fy hun i feddwl am fy mlaenoriaethau o ddydd i ddydd.
Annwyl Aran,
Rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi achos bod ni’n datblygu prosiect newydd pwysig ynglŷn â’r iaith Gymraeg a hoffen ni gael eich help.
Mae prosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yn brosiect uchelgeisiol a ddechreuodd yn swyddogol ar Fawrth 1af 2016 (gellir dod o hyd i fanylion pellach am hyn yma: sites.cardiff.ac.uk/corcencc/).
Os posib i chi gysylltu â mi ar WilliamsL10@cardiff.ac.uk er mwyn i mi yrru mwy o wybodaeth i chi?
Cofion cynnes,
Lowri Williams
CorCenCC Research Assistant | Cynorthwwydd Ymchwil CorCenCC
Cardiff University | Prifysgol Caerdydd