Dau beth gwahanol iawn i ddiwedd wythnos diwethaf – wedi penwythnos o beidio meddwl am waith o gwbl, dwi’n teimlo’n llawer mwy ffres…
Oce, *bron* peidio meddwl am waith o gwbl – mewn sgwrs fach efo Jesse, wnaethon ni weld bod un problem bach ar ein tudalen glanio sydd yn effeithio’n negyddol ar ein canrannau – roeddwn ni’n gwybod bod y rhifau i lawr, ond dim pam/lle yn union – felly bydd modd i ni fwrw ati i drwsio hynny yn reit sydyn yr wythnos hon…:-)
Felly cychwyn trefnu hynna, ac wedyn ffordd â mi i Gaerdydd dros nos er mwyn cyfarfod difyr bore fory…