Delio efo egni isel

Mae’n amhosib i neb fod efo egni a brwydfrydedd trwy’r amser – ond pan ti’n trio adeiladu busnes, mae’r cyfrifoldeb i fedru bwrw ymlaen trwy’r amser yn gallu pwyso’n drwm.

Mae fy mam adref o’r ysbyty, ers ddoe – ac, wedi’r cyfan, tydi’r cefnogaeth gan y gwasanaeth cymdeithasol dim eto ar gael, a does neb yn gallu dweud pryd bydd ar gael – felly mae’r baich gwaith yn disgyn arnaf i a Catrin. Dydi o ddim yn ddiwedd y byd, wrth gwrs – ond mae’n gwneud i rywun deimlo wedi teneuo rhywsut, ac efo llai o amynedd pan bydd y plant yn flin, ac efo llai o egni ar gyfer gwaith.

Un ffordd bwysig i ddelio efo hyn ydi cadw i fynd efo pethau bychain – gan amlaf, mae rhestr hir o bethau bychain yn aros am sylw – pan ti ddim efo llawer o egni, mae’n gallu bod yn haws gweithio trwy restr o bethau sydd ddim yn rhy fawr. Dyna bydd heddiw i mi, felly – ac wedyn taith i lawr i Gaerdydd i siarad am ddysgu Cymraeg ar y radio wythnos nesaf (gan wybod bydda i’n gadael Catrin i ofalu am fy mam ar ei phen ei hun).

Ymlaen!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s