Pan ti’n trio adeiladu busnes – hynny yw, trio cael o i dyfu – ti wastad yn gorfod bod yn dewis rhwng bethau i’w gwneud. Mae ‘na rifoedd di-derfyn o bethau gwahanol gall fod yn werth i ti ffocysu arnyn nhw, ac mae’n rhaid i ti ddewis llond llaw ohonyn nhw – neu gymryd y risg sylweddol y byddi di’n methu gwneud jobyn iawn efo’r un ohonyn nhw.
Ond mae hynna’n meddwl bod rhai pethau – sydd ddim yn rhan o dyfu’r busnes yn y tymor byr, ond sydd er hynny angen eu gwneud – yn tueddu i gael eu gadael a’u gadael troeon.
Hynny yw, heddiw dwi yn sicr am fwrw ymlaen efo trefniadau ar gyfer ein parti penblwydd… 😉