Un o’r petha dwi’n gorfod gwneud yn eithaf aml ydi recordio fy llais. Dros y blynyddoedd, dwi wedi dod i arfer efo clywed o – fedra i’m dweud bod fi’n hoff iawn o’i wneud, ond tydi o ddim yn swnio’n gwbl diarth fel y mae o tro cyntaf ti’n clywed dy lais dy hun.
Heddiw, bydda i’n recordio fideo ar gyfer hysbyseb newydd i’r cwrs 6 munud. Dydi o ddim yn cymryd yn hir – dan ni’n defnyddio teclyn handi ofnadwy o’r enw Content Samurai – ac wedyn mae mymryn o chwarae o gwmpas efo gosodiadau, gan gynnwys gwneud y llais ychydig yn gyflymach, sydd yn gallu swnio’n od braidd ond sydd yn gyson yn ennyn gwell ymateb, am ryw rheswm.
Chwant bwyd? Wel, dim rili – jesd bo fi ar ddiwrnod 3 o ympryd 3 diwrnod, felly’n dechrau edrych ymlaen at frecwast bore fory…;-)