Mae’n daith ryfedd adeiladu busnes, neu brosiect o unrhyw fath am wn i.
Mae cyfnodau cyffrous pan mae posibiliadau difyr newydd yn agor i fyny (gen i gyfarfod diddorol iawn wythnos nesaf, er enghraifft).
Mae cyfnodau pan mae pwysau gwaith yn heriol iawn – unai bod andros lot i’w wneud, neu fod y llif arian yn mynd ffor’ rong.
Ac wedyn mae cyfnodau pan mai dim ond bwrw ymlaen sydd isio – rhestr gwaith sydd angen cwblhau, dim byd ar frys mawr, dim byd anodd.
Rheina ydi’r cyfnodau dwi’n licio lleiaf…;-)