Gen i ryw fath o athrylith mewnol tywyll sydd yn gwneud i mi fod yn hwyr i ‘ngwely bob un tro mae’r blincin clociau yn mynd ymlaen. Grrrrr.
Mewn newyddion eraill, mae’r ymateb cychwynnol i’n pwyslais newydd ar y cwrs 6 munud yn addawol iawn – mis neu ddau difyr iawn o gasglu data a rhagweld cyflymdra tyfu o’n blaenau ni.
A dwi angen swyddfa. Cadair gornel stafell fyw yn reit braf mewn llawer o ffyrdd, ond iesgob annwyl dad dwi angen rhywle i roi fy llyfr nodiadau!