Adref o Gaerdydd ddoe - wedi un o'r cyfarfodydd mwyaf difyr dwi wedi cael ers peth amser, efo Colin Paterson, a phob math o syniadau cyffrous yn codi ohono fo - diwrnod o rasio i ddal i fyny heddiw (yn enwedig efo'r ffaith bod ni wedi cael wythnos wael efo'n hysbysebion, ac wedi gorfod gweithredu … Parhewch i ddarllen Be’ ydi roller-coaster yn Gymraeg?!
Mis: Ebrill 2019
Newidiadau bach pwysig
Dau beth gwahanol iawn i ddiwedd wythnos diwethaf - wedi penwythnos o beidio meddwl am waith o gwbl, dwi'n teimlo'n llawer mwy ffres... Oce, *bron* peidio meddwl am waith o gwbl - mewn sgwrs fach efo Jesse, wnaethon ni weld bod un problem bach ar ein tudalen glanio sydd yn effeithio'n negyddol ar ein canrannau … Parhewch i ddarllen Newidiadau bach pwysig
Delio efo egni isel
Mae'n amhosib i neb fod efo egni a brwydfrydedd trwy'r amser - ond pan ti'n trio adeiladu busnes, mae'r cyfrifoldeb i fedru bwrw ymlaen trwy'r amser yn gallu pwyso'n drwm. Mae fy mam adref o'r ysbyty, ers ddoe - ac, wedi'r cyfan, tydi'r cefnogaeth gan y gwasanaeth cymdeithasol dim eto ar gael, a does neb … Parhewch i ddarllen Delio efo egni isel
Dewis a dethol
Pan ti'n trio adeiladu busnes - hynny yw, trio cael o i dyfu - ti wastad yn gorfod bod yn dewis rhwng bethau i'w gwneud. Mae 'na rifoedd di-derfyn o bethau gwahanol gall fod yn werth i ti ffocysu arnyn nhw, ac mae'n rhaid i ti ddewis llond llaw ohonyn nhw - neu gymryd y … Parhewch i ddarllen Dewis a dethol
Recordio llais a chwant bwyd
Un o'r petha dwi'n gorfod gwneud yn eithaf aml ydi recordio fy llais. Dros y blynyddoedd, dwi wedi dod i arfer efo clywed o - fedra i'm dweud bod fi'n hoff iawn o'i wneud, ond tydi o ddim yn swnio'n gwbl diarth fel y mae o tro cyntaf ti'n clywed dy lais dy hun. Heddiw, … Parhewch i ddarllen Recordio llais a chwant bwyd
Ysbrydoliaeth, ofn a diflastod
Mae'n daith ryfedd adeiladu busnes, neu brosiect o unrhyw fath am wn i. Mae cyfnodau cyffrous pan mae posibiliadau difyr newydd yn agor i fyny (gen i gyfarfod diddorol iawn wythnos nesaf, er enghraifft). Mae cyfnodau pan mae pwysau gwaith yn heriol iawn - unai bod andros lot i'w wneud, neu fod y llif arian … Parhewch i ddarllen Ysbrydoliaeth, ofn a diflastod
Amser grrrrr
Gen i ryw fath o athrylith mewnol tywyll sydd yn gwneud i mi fod yn hwyr i 'ngwely bob un tro mae'r blincin clociau yn mynd ymlaen. Grrrrr. Mewn newyddion eraill, mae'r ymateb cychwynnol i'n pwyslais newydd ar y cwrs 6 munud yn addawol iawn - mis neu ddau difyr iawn o gasglu data a … Parhewch i ddarllen Amser grrrrr