Dwi’n teimlo’n sbonciog ac yn llawn brwydfrydedd ac optimistiaeth bore ‘ma. Cornel wedi’i throi efo’r busnes?
Neu jesd bore heulog?…;-)
Weles i rywbeth yn ddiweddar yn awgrymu bod pobl pesimistaidd yn debycach o lwyddo mewn busnes. Efallai bod fi’n gwneud gwaith gwell yn nhywyllwch y gaeaf, ac yn dipyn o liability unwaith i’r haul gyrraedd… [ond dwi hefyd wedi darllen bod pobl sydd yn wael iawn am asesu pa mor hir bydd prosiect yn cymryd yn debycach o greu busnes cynaliadwy, am bod nhw wastad yn credu bod llwyddiant jesd rownd y gornel…].
Reit, ymlaen efo paratoadau at y parti!