Un wendid sydd gen i ydi sut dwi’n diflasu ar ormod o drefn. Dwi’n gallu teimlo mod i mewn rhigol yn rhy hawdd – ac wrth gwrs un o’r pethau sydd angen i adeiladu unrhyw fath o sefydliad (busnes, cymdeithas, beth bynnag) ydi cysondeb.
Rhyw ddiwrnod, bydd rhaid i ni gael beth mae Americanwyr yn galw yn COO – chief operating officer – hynny yw, y person sydd yn gwneud yn siwr bod pob dim yn digwydd. Adeg hynna, bydd modd i mi fynd i fwy o gyfeiriadau ar unwaith er mwyn cadw fy hun yn ddiddan…;-)
Heddiw, bydda i’n siarad efo cynrychiolydd sefydliad yng Nghymru am ein darpariaeth, ac wedyn bwrw ati efo trefniadau ar gyfer y parti – ac mae’n bosib (croesi bysedd!) mai heddiw bydd y diwrnod dan ni’n dechrau hysbysebu’r cwrs 6 munud eto…:-)