Bore llawn addewid

Wel oedd hynna’n rhyfedd. Gweiddi ar y plant bod ‘cyfle olaf am gwtsh’ (sef bod hi’n 5 munud i 8 ac amser iddyn nhw siapio hi) – a dyna lle oedd y ddau, wedi gwisgo, wedi cael brecwast, yn barod am y diwrnod (ac yn reit falch ohonyn nhw eu hunain!).

Hen ddigon o amser i mi olchi’r llestri, felly, a dyma fi’n barod fy hun ac yn teimlo’n llonydd ac yn glir fy meddwl – am y tro cyntaf ers achau. Bwrw ymlaen heddiw efo cynyddu ein ffocws ar y cwrs 6 munud, a pharatoi ar gyfer y parti.

Mae wastad yn teimlo’n gymhleth cadw gorolwg o’r busnes yn fy mhen – yn enwedig wrth i ni dyfu – a dwi’n teimlo bod digon o bethau dwi ddim yn meddwl digon amdanyn nhw (fel anghenion ein staff, er enghraifft – dwi’n lwcus bod nhw efo lot o angerdd ac ymrwymiad, ond dwi hefyd yn edrych ymlaen at fedru rhoi mwy o amser i mewn i’w cefnogi). Eto, mae ffocysu ar un peth ar y tro yn gwneud y byd o wahaniaeth.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s