Trio eto…

Aeth heddiw rhwng y cŵn a’r brain braidd – prin wedi cael cyfle i wneud mwy na llond llaw o bethau oedd eu hangen rhwng y galwadau ffôn gwahanol yn trio gweithio allan os oedd fy mam yn cael dod adref neu beidio, ac wedyn yn mynd ati hi yn yr ysbyty a chael clywed ganddi hi mai bai fi oedd yr oedi (roedd rhywun o’r tîm gofal cymdeithasol ar ei gwyliau, felly doedd dim modd trefnu’r cefnogaeth bydd angen arni hi bob bore a gyda’r nos).

Digalon braidd – ond heddiw, wedi noson well o ran cwsg, dw i’n barod i fwrw ati i anwybyddu tempar blin y plantos bore ‘ma, a threfnu newidiadau i’r tudalen glanio ar gyfer y cwrs 6 munud, asesu/derbyn y tudalennau newydd ar gyfer y cwrs Sbaeneg ac (hir yw bob aros!) symud o’r diwedd ar drefniadau’r parti – gan gynnwys atgoffa pawb i dalu gweddill pris y tocynnau…

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s