Dan ni adref ar ôl penwythnos braf iawn i ffwrdd – dylen ni fod yn llawn egni a sbarc wedi amser mor dda, ond o diar, mae’n troi allan mae heddiw ydi’r diwrnod mae mam yn dod adref efo’i chlun newydd… felly mae fel ffair yn fan hyn, efo pob math o ofal cymdeithasol a gwaith gosod rêlings a ballu yn mynd ymlaen…!
Ond ar wahân i hynna i gyd, dwi’n teimlo’n fwy ffresh na dwi wedi teimlo ers peth amser, ac yn barod i gwblhau’r camau nesaf efo hysbysebu’n cwrs Cymraeg ac efo lawnsio’r cwrs Sbaeneg…:-)