Cadw i fynd ac ambell sgwrs difyr

O’n i’n meddwl byddai modd gwneud dwy, tair awr o waith da bob dydd tra byddai Mam yn yr ysbyty, ond dydi o ddim cweit yn gweithio felly – mae fy meddwl yn teimlo fod o’n cael ei dynnu i ormod o gyfeiriadau gwahanol i fedru gwneud unrhyw beth o werth real.

Wedi dweud hynna, dwi’n llwyddo i gadw trafodaeth eithaf pwysig i fynd efo Jesse am ein camau hysbysebu nesaf (er bod y broses o baratoi y gwahanol tudalennau a gosodiadau yn arafach nag arfer).

A ges i sgwrs bach difyr iawn ddoe efo Rhuanedd, golygydd Radio Cymru, sydd efo syniadau da am sut i ddefnyddio’r methodoleg ar y radio, ac sydd wedi rhoi fi mewn cysylltiad efo golygydd Radio Wales. Byddai patrwm cyson i gyfarwyddo pobl ag elfennau o’r iaith trwy’r radio yn gallu bod yn gam hynod bositif ymlaen o ran agweddau cyffredinol ati.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s