A dyma fi’n cychwyn arni erbyn chwarter i ddeg – ia, dyna bydd y school run a tomen o lestri yn gwneud i rywun…;-)
A dim ond pwt bach o waith bydd hi hefyd, cyn bydd rhaid i mi fynd i mewn i’r ysbyty eto – mae mam i’w gweld yn gwneud yn iawn, ond mae peth ansicrwydd yn dal i fod am ba pryd ddaw hi adref. Mae’n siwr bod fi’n dechrau deall yn well sut mae pobl efo commute yn teimlo!
Wythnos gyntaf o ffocysu’r hysbysebion ar y cwrs 6 munud ydi hon – bydd y canlyniadau yn ddadlennol iawn o ran rhagolygon tyfu gweddill y flwyddyn – felly mae elfen o aros efo bysedd wedi croesi cyn cael gweld…;-)