Wythnos newydd, pris newydd

Dan ni ‘di cael rhediad go lew o ostwng pris y cwrs 6 mis i £100, ac mae wedi helpu ni i gyrraedd llawer iawn o ddysgwyr newydd – ond oedd o wastad yn mynd i fod yn dalcen caled i’w gadw i fynd am yn hir iawn, ac erbyn hyn (er gwaethaf caredigrwydd pawb fu’n rhannu’r post, sydd yn cadw costau hysbysebu i lawr) mae’n costio ni rhwng £80 i £120 i gael dysgwr newydd, sydd ddim yn gynaliadwy.

Nôl, felly, at y pris llawn o £200, a chyfnod o ffocysu ar hyrwyddo’r cwrs ‘6 munud y diwrnod’, dylai fod o fewn cyrraedd llawer iawn mwy o bobl o ran amser ac o ran arian.

Gen i ebyst i’w hanfon heddiw am y syniad o ddysgu’r Gymraeg ar radio, ac wedyn bydda i (wedi hir aros/addo!) yn bwrw ymlaen efo trefniadau’r parti penblwydd, tra’n aros i weld sut bydd yr ystadegau hysbysebu yn edrych wedi wythnos o fod yn bris llawn eto.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s