Dim cweit wedi cadw at drefn y bore heddiw – am fod cymaint o bethau yn chwyrlïo o gwmpas y lle ers anhrefn wythnos diwethaf – negeseuon fan hyn a fan draw, a gorffen sgwennu darn yn adrodd hanes yr holl fusnes ‘dysgu Cymraeg ar y radio’.
Rwan, rhaid ail-afael yn y gwaith caib a rhaw – dan ni’n gweld canlyniadau calonogol iawn efo’n hysbysebion ar y funud, a rhaid adeiladu ar hynna – ac mae’n rhaid dal ymlaen i drosglwyddo cynnwys i’n llwyfan newydd.
Deud y gwir, bydd hynna’n ffit da heddiw – mae fy mrêns wedi ffrio, a bydd symud testun o un lle i’r llall mwy neu lai y gorau fedra i ddisgwyl cyflawni ar ddiwrnod felly… 🙂