Dwi'n teimlo'n sbonciog ac yn llawn brwydfrydedd ac optimistiaeth bore 'ma. Cornel wedi'i throi efo'r busnes? Neu jesd bore heulog?...;-) Weles i rywbeth yn ddiweddar yn awgrymu bod pobl pesimistaidd yn debycach o lwyddo mewn busnes. Efallai bod fi'n gwneud gwaith gwell yn nhywyllwch y gaeaf, ac yn dipyn o liability unwaith i'r haul gyrraedd... … Parhewch i ddarllen Dibynnu ar y tywydd
Mis: Mawrth 2019
Arferion
Un wendid sydd gen i ydi sut dwi'n diflasu ar ormod o drefn. Dwi'n gallu teimlo mod i mewn rhigol yn rhy hawdd - ac wrth gwrs un o'r pethau sydd angen i adeiladu unrhyw fath o sefydliad (busnes, cymdeithas, beth bynnag) ydi cysondeb. Rhyw ddiwrnod, bydd rhaid i ni gael beth mae Americanwyr yn … Parhewch i ddarllen Arferion
Bore llawn addewid
Wel oedd hynna'n rhyfedd. Gweiddi ar y plant bod 'cyfle olaf am gwtsh' (sef bod hi'n 5 munud i 8 ac amser iddyn nhw siapio hi) - a dyna lle oedd y ddau, wedi gwisgo, wedi cael brecwast, yn barod am y diwrnod (ac yn reit falch ohonyn nhw eu hunain!). Hen ddigon o amser … Parhewch i ddarllen Bore llawn addewid
Trio eto…
Aeth heddiw rhwng y cŵn a'r brain braidd - prin wedi cael cyfle i wneud mwy na llond llaw o bethau oedd eu hangen rhwng y galwadau ffôn gwahanol yn trio gweithio allan os oedd fy mam yn cael dod adref neu beidio, ac wedyn yn mynd ati hi yn yr ysbyty a chael clywed … Parhewch i ddarllen Trio eto…
Ail-gychwyn herciog
Dan ni adref ar ôl penwythnos braf iawn i ffwrdd - dylen ni fod yn llawn egni a sbarc wedi amser mor dda, ond o diar, mae'n troi allan mae heddiw ydi'r diwrnod mae mam yn dod adref efo'i chlun newydd... felly mae fel ffair yn fan hyn, efo pob math o ofal cymdeithasol a … Parhewch i ddarllen Ail-gychwyn herciog
Cadw i fynd ac ambell sgwrs difyr
O'n i'n meddwl byddai modd gwneud dwy, tair awr o waith da bob dydd tra byddai Mam yn yr ysbyty, ond dydi o ddim cweit yn gweithio felly - mae fy meddwl yn teimlo fod o'n cael ei dynnu i ormod o gyfeiriadau gwahanol i fedru gwneud unrhyw beth o werth real. Wedi dweud hynna, … Parhewch i ddarllen Cadw i fynd ac ambell sgwrs difyr
Gwaith bas
Dim gwaith dwfn yr wythnos hon, mae hynna'n sicr - rhwng yr holl nôl ac ymlaen, a meddwl am bob dim sydd angen mynd â fo neu ddod â fo nôl, does gena i'm gobaith mul ffocysu yn ofalus ar unrhyw beth. Ydw i'n gallu cael hyd o'r math iawn o siwmper lliw iawn ayyb? … Parhewch i ddarllen Gwaith bas
Cyfnod bach stormus
A dyma fi'n cychwyn arni erbyn chwarter i ddeg - ia, dyna bydd y school run a tomen o lestri yn gwneud i rywun...;-) A dim ond pwt bach o waith bydd hi hefyd, cyn bydd rhaid i mi fynd i mewn i'r ysbyty eto - mae mam i'w gweld yn gwneud yn iawn, ond … Parhewch i ddarllen Cyfnod bach stormus
Wythnos newydd, pris newydd
Dan ni 'di cael rhediad go lew o ostwng pris y cwrs 6 mis i £100, ac mae wedi helpu ni i gyrraedd llawer iawn o ddysgwyr newydd - ond oedd o wastad yn mynd i fod yn dalcen caled i'w gadw i fynd am yn hir iawn, ac erbyn hyn (er gwaethaf caredigrwydd pawb … Parhewch i ddarllen Wythnos newydd, pris newydd
Hwyr a hercan
Bach yn hwyr cychwyn arni heddiw am fod angen pigo i dref am hercan - teimlo'n oer rwan...;-) A'r gwaith dwfn am heddiw - bwrw ymlaen efo cynnwys ebyst y cwrs 6 munud, a'u trosglwyddo wedyn i Kajabi. Gwaith caib a rhaw diflas - bydda i'n falch iawn pan fydd drosodd...