A dyma ddiwrnod ola’r wythnos i bob pwrpas – yng nghanol miri hanner tymor – achos yfory bydd rhaid i mi deithio i Lundain ar gyfer sioe radio ddydd Gwener.
Mae’n mynd i fod yn ddiddorol trio gweld i ba raddfa mae’n bosib dysgu unrhyw beth o werth mewn deg munud ar radio – a dwi’n ansicr faint mae’n cyfrif fel gwaith dwfn ‘chwaith, os na fydd Radio Wales yn penderfynu byddan nhw’n licio gwneud rhywbeth tebyg…;-)