Dyna’r her yr wythnos hon – cadw at ryw fath o drefn er gwaetha’r ddau blentyn bywiog o gwmpas y lle ‘ma. Ar adegau fel hyn, dwi’n aml iawn yn cael fy hun yn synfyfyrio am swyddfa fach bren yng ngwaelod yr ardd…;-)
Dwi ddim wedi meddwl llawer am waith dros y penwythnos – sydd yn anarferol, rhaid i mi gyfaddef – ond wedi bod i ffwrdd efo Angharad i ddathlu ei phenblwydd (bach yn hwyr), ac mae hynna wedi helpu rhoi digon o bethau eraill i mi feddwl amdanyn nhw.
Ond yr wythnos hon, rhaid i mi baratoi ar gyfer y wers Gymraeg fwyaf anarferol dwi erioed wedi rhoi (sydd yn cynnwys trefnu teithio) a gwneud yn siwr bod gynnon ni batrwm clir o ran ein hymdrechion hysbysebu dros y mis nesaf. Amdani… 🙂