Erbyn heno, bydd gynnon ni werth wythnos o ystadegau hyrwyddo’r cwrs 6 munud, wedi cynyddu ein gwariant ar ddau hysbyseb i tua £200 y diwrnod yr un. Roedd y prawf cychwynnol – tua £100 y diwrnod – yn addawol iawn, ac os bydd yr un yma yn debyg, bydd gynnon ni syniad eithaf clir o’n gwariant/buddsoddiad yn y mis nesaf.
Mae’n gallu bod yn rhwystredig aros i’r ystadegau ddod i mewn – mae rhywun isio medru symud yn gynt – ond yn enwedig wrth gynyddu lefel y gwariant, rhaid mynd cam wrth gam. Dydi sut mae hysbyseb yn gweithio ar Facebook pan dach chi’n gwario £50 y diwrnod ddim o reidrwydd yn debyg o gwbl i sut mae’r un hysbyseb yn gweithio pan dach chi’n gwario £500 y diwrnod.
Doeddwn i erioed yn disgwyl gorfod dysgu am y petha ‘ma – creu cyrsiau iaith a phrosiectau cymdeithasol ydi fy niddordeb i – felly diolch byth bod Jesse yn ein harwain efo’r gwaith yma. Dwi’n edrych ymlaen at gyrraedd y pwynt lle fedran ni trosglwyddo’r rhan helaeth o hyn i rywun llawn amser – ond hyd yn oed wedyn, mae’n rhaid cadw llygad barcud ar y rhifau pwysicaf.