Dyna dwi angen, mewn ffordd.
Mae’n rhyfedd faint mae patrymau diwrnod yn dibynnu ar sut mae’r plant yn y boreau. Bore ‘ma, oeddan nhw wedi codi’n ddistaw erbyn 7.30, wedi gwisgo, cael brecwast, brwsio dannedd a mynd allan i’r ardd i chwarae.
Roedd yn teimlo ychydig bach fel bod wedi ymddeol – ond rwan maen nhw ‘di mynd ar amser i’r ysgol, a dwi’n teimlo nid yn unig yn barod am y diwrnod ac yn symud ar y rhestr bore, ond fel bod gen i egni sbâr am fod dim angen brwydro i gael trefn y plant yn iawn.
Ymlaen rwan efo’r gwaith – o bosib yn trio gwneud mymryn yn ormod o betha i gyd ‘run adeg – symud i Kajabi, mireinio’r hysbysebion, paratoi at lawnsio’r Sbaeneg – ond dyma’r holl bethau sydd angen digwydd i ni godi ein sylfaen tanysgrifiadau i’r pwynt lle mae modd lleihau ein targedau gwerthu a thyfu yn fwy hyderus.