Mae dannedd mam yn dechrau disgyn allan – wel, darnau ohonyn nhw, felly mwy o trips bach at y deintydd ar y gorwel – ac mae ‘na frwydr mam vs merch am dacluso stafell wely yn mynd ymlaen – ac ansicrwydd os ydi Angharad am ddal ymlaen efo gwersi nofio ta nofio fel teulu yn eu lle – pytiau bach o fellt a tharan o gwmpas y lle ym mhobman…;-)
Weithiau, dwi’n teimlo’r colled o fod heb swyddfa i fynd ati (ac yn sicr mae ‘na adegau pan mae Catrin wedi bod isio rhoi bocs o fechdanau a chic allan o’r drws ffrynt i mi…;-)).
Dwi’n croesi fy mysedd y daw IndyCube Cymru i Gaernarfon rhyw ddiwrnod (gen i’m awydd mynd i Fangor ta Porthmadog yn y bore, ond byddai rolio lawr yr allt i’r dref ddim yn rhy ddrwg). Tan hynny… ym… be dwi fod i wneud? O, ia, meddwl yn glir am gamau nesaf tyfu’r busnes… am heddiw, rhoi mwy o stwff yn Kajabi ydi hynna…:-)