Ond ar ôl dweud ddoe bod pentwr gwirion o ddillad budr – o, na, rhai’r plant ydi rheina – pentwr gwirion o bethau i’w gwneud…
Dwi’n teimlo heddiw bo fi’n gallu gweld mwy neu lai trwodd at ddiwedd y cyfnod prysur.
Hynny yw, mae dal tipyn go lew o bethau gwahanol i feddwl amdanyn nhw – ond yn ei hanfod, symud popeth drosodd at Kajabi ydi’r pecyn gwaith mwyaf – mae’r lleill angen i mi gadw llygad ar beth sydd yn digwydd, yn hytrach na gwneud y rhan helaeth o’r gwaith fy hun.
Dwi dal isio trosglwyddo’r cyfrifoldeb goruwchwylio pan fydd modd – ond hei lwc erbyn wythnos nesaf bydd bywyd yn dechrau edrych ychydig bach yn fwy gall unwaith eto…;-)