Wel, o ran pethau digidol, beth bynnag. Dydd Sadwrn a dydd Sul efo’r nesaf peth i ddim defnydd o’r gliniadur ta’r ffôn – ac mae’n rhyfedd pa mor sydyn mae’n dechrau teimlo’n normal eto – fel rhyw atsain o fywyd cyn dyfodiad y we.
Dwi am drio gwneud o’n beth cyson o hyn allan, gwaith yn caniatau. Cawn weld. Ond yn sicr mae mwy o egni nag arfer wrth gychwyn dydd Llun…