Weithiau, mae’r holl gwestiwn o ‘waith dwfn’ yn gorfod cymryd set cefn tra bod gwaith caib a rhaw yn digwydd.
Fel ‘na mae o yn fan hyn ar y funud, ac felly bydd am y mis neu ddau nesaf, am wn i – dwi wrthi’n symud ein cwrs Sbaeneg drosodd at lwyfan newydd o’r enw Kajabi. Mae’n bwerus ac yn effeithiol, ond mae dal yn fynydd bach o waith – gorfod strwythuro dwy ffordd wahanol (6 mis a 6 munud) i’r cynnwys gael ei gyflwyno, dod i arfer efo sustem newydd, ac addasu cynnwys yr ebyst i fyw mewn adrannau gwahanol ar y wefan (dyna’r gwaith sydd yn cymryd y rhan helaeth o amser).
Os eith pob dim yn iawn, bydda i’n symud y cyrsiau Cymraeg drosodd hefyd – felly mis neu ddau o waith eithaf fflat-owt, am wn i.
Ond y gobaith ydi y bydd yn werthchweil yn y pen draw – bydd yn llwyfan efo’r gallu i dyfu heb achosi problemau, a bydd hefyd yn rhyddhau Ifan i ffocysu mwy ar y SSiBorg…:-)