Ia, dwi’n dechrau cael trefn arni eto… er gwaethaf gorfod deffro cyn hanner wedi 7 er mwyn dathlu penblwydd Angharad yn ddeg oed!
Wedi dathlu, wedi cael nhw i’r ysgol ar amser, wedi clywed pwt amdani ar Radio Cymru wnaeth blesio’n fawr, wedi mynd â’r ci am dro, wrthi’n sgwennu hyn – ac yn barod i fynd amdani efo post newydd ar Facebook ac wedyn trefnu’r cam nesaf o ran hysbysebu ein cwrs ‘6 Munud y Diwrnod’…
Ond am un peth bach…
Dwi’n gorfod torri ar draws y llif er mwyn mynd â fy mam at y ganolfan i’r henoed ym Mhontnewydd – am goffi ac er mwyn gweld os fedr hi wynebu dod i nabod ychydig o bobl acw. Croesi bysedd!
Ac wedyn wythnos nesaf dwi i ffwrdd am dridiau – ond mi ddaw y patrymau cyson, yn y pen draw. Dim breuddwyd ydi’r cwbl, nac ydi?…;-)