Weithiau, mae tipyn o’r amser ‘meddwl am waith dwfn’ yn diflannu – ond mewn ffordd dda.
Hynny yw, dwi’n cael sgwrs efo Jesse, sydd yn gorfod bod peth cyntaf pan mae o mewn timezone heriol – ond mae sgwrs efo Jesse wastad yn gweithio fel rhyw fath o sesiwn ffocysu, felly fedra i ddim gweld hynna fel colled.
Dwi angen dechrau bod yn fwy drefnus efo mynd â’r ci am dro peth cyntaf ar ôl i’r plant fynd i’r ysgol, hefyd, dwi’n credu – mae’n teimlo’n haws wedyn, rhywsut, i ddod yn syth at hyn.