O. Hanner dydd yn barod, a dyma fi’n gwneud y peth cyntaf ar fy rhestr beunyddiol… wps!
Eto, weithiau mae’n rhaid cydnabod pan ti wedi blino – a dwi wedi blino.
Dydd Iau wythnos diwethaf es i Gaerdydd am gyfarfod efo’r TUC – nos Wener bues i yn Llanelli am bwt ar Heno am Common Voice, wedyn y noson honno yn Llandysul – dydd Sadwrn oedd cyfarfod cyntaf pwyllgor newydd YesCymru yn Aberystwyth, wedyn adref – anadlu a dal i fyny efo trefn hysbysebion ddydd Sul, dydd Llun nôl i lawr i Aberystwyth am ginio Calennig SSiW (diolch byth bod Beca yn dreifio!), cynnig swydd newydd nos Lun – wedyn dydd Llun nesaf dwi’n mynd i Rydychen am gyfarfod efo Routledge – a’r gwir ydi dwi angen wythnos fach distaw yn rhywle i adael i fy mhen i setlo…
Ond mi ddaw! Weithiau, mae ‘na gyfnodau pan does dim gobaith mul ffocysu ar ‘waith dwfn’, ac mae hynna’n iawn hefyd…:-)