Gen i eithaf dipyn o bethau i’w gwneud heddiw – creu mwy o hysbysebion i’w profi, gwneud rhai o’r rhai presennol yn fideos, dechrau trafod efo rhywun am ein cwrs Sbaeneg dwys – ond bydd rhaid i’r rhan helaeth o hynna aros tan yfory.
Achos heddiw, ffordd â mi lawr i Aberystwyth eto – y tro hwn, i gyfarfod staff presennol SSi er mwyn cael parti-Dolig-sydd-ddim-yn-Dolig – neu barti Calennig fel dan ni’n meddwl amdano fo.
Ac mae’n digwydd bod yn union 10 mlynedd ers i ni gyhoeddi gwersi cyntaf SSiW…:-)