Gwers newydd i mi – mae dal at ddefod beunyddiol yn fwy heriol byth pan mae llawer iawn yn mynd ymlaen – ond efallai yn bwysicach byth adeg hynny hefyd…
Dwi’n cofio clywed hen stori am Gandhi yn dweud byddai angen awr i fediteiddio, un o’i swyddogion yn dweud bod dim amser, ac ynteu’n ateb bod diwrnod prysur yn galw am ddwy awr o fediteiddio…;-)
Dan ni yng nghanol cyfnod tyngedfennol i’r cwmni – mae ein gwariant ar hysbysebion wedi dyblu a mwy, ac mae’n cymryd amser i sadio ar bob lefel newydd, sydd yn golygu taith emosiynol eithaf dwys ar adegau. Ond, ag eithrio ambell cyfnod sych, mae’r rhifau ar y cyfan yn dal yn galonogol iawn – ac wedyn dwi’n cael fy nhynnu i mewn i gant a mil o bethau gwahanol – creu hysbysebion newydd, creu cynnwys ail-hysbysebu, delio efo ymholiadau ar Facebook, ac yn y blaen.
Ond o hyn allan, dwi am gofio anadlu peth cyntaf yn y bore, a chadw at y ddefod…:-)