Do, mi aeth ddoe rhwng y cŵn a’r brain – Angharad wedi gwrthod mynd i’r ysgol eto (cafodd hi godwm y noson gynt, ac mae unrhyw awgrym o boen yn ddigon o esgus yn ei barn hi!), tipyn o anghydfod yn fan hyn, ac wedyn lot fawr iawn o redeg o gwmpas.
Ac heb y strwythur, roedd y gwaith mwy na heb i gyd yn fater o ateb ebyst a chadw llygad ar ystadegau hysbysebu – rhaid gwneud, ond yn sicr dio’m yn waith dwfn.
O leiaf roedd un o’r ebyst yn reit difyr – sef gwahoddiad am sgwrs wyneb-yn-wyneb efo Routledge, a geiriau positif iawn gan uwch golygydd ieithoedd acw…:-)
Reit – amdani efo heddiw! Nôl ar y cledrau!