Cysondeb a methu diwrnodiau

Un o’r pethau difyr am y ddefod yma o ddechrau’r diwrnod efo nodyn syml yn fan hyn ydi sut mae’n teimlo pan dwi’n methu.

Roedd ddoe yn rhemp o’r cychwyn cyntaf un – Angharad yn gwrthod mynd i’r ysgol, hwyliau gwael gan bawb yn y bore, angen mynd â mam at y deintydd, ac wedyn môr o negeseuon i’w hateb ym mhob man – byddai galw fo’n ‘anhrefnus’ yn garedig.

Mewn ffordd, mae wedi pwysleisio i mi fy hun pwysigrwydd y ddefod hon, dylai helpu fi i gadw ati. Dylai…;-)

Llawer o bethau da ymysg y miri, ‘ddo – ymateb anhygoel, teimladol iawn i’r 10 cwrs mae ein noddwr di-enw wedi talu amdanyn nhw – rownd newydd o brofion hysbysebu yn mynd yn syfrdanol o dda – trafodaeth difyr yn parhau efo Routledge ac efo Prifysgol Bangor, a’r Nant – mae hi am fod yn flwyddyn gyflymu i ni.

Heddiw, mae gen i gyfarfod mae Catrin a Justine wedi trefnu ar gyfer materion y parti pen-blwydd, dwi’n mynd i sgwennu pwt ar gyfer Facebook (ac efallai anfon rhywbeth i Nation.cymru – wedi addo trio gwneud bob wythnos) ac fel arall, bydda i’n clicio ‘refresh’ bob rhyw ychydig o funudau ar yr ystadegau hysbysebu…;-)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s