Plant nôl yn yr ysgol – y cyfle perffaith am ddiwrnod cyfan i gyflawni pob math o bethau.
Ia, wir. Mewn cartref heb gi sydd isio neidio ar goesau pobl yn cysgu’n ddiniwed tua 4.30 y bore – ac yn aml wedyn hefyd.
Felly diolch byth am weithio mewn cwmni efo oriau hyblyg – ac rwan, cawn drio cychwyn eto, wedi cysgu mwy na heb trwy’r bore…;-)
Ac mae digon i wneud, wedi cynnydd syfrdanol mewn gwerthiant dros y penwythnos – mae’n edrych ar y funud fel bod ni wedi cael hyd o’r cyfuniad iawn ar gyfer ein hysbysebion – hir yw bob ymaros, ond mae’r aros (a’r arbrofi) yn edrych yn hynod werthchweil ar y funud.
Ac ar ben hynny, dan ni wedi cael noddwr anhysbys sydd isio talu i 10 person fyddai ddim wedi medru fforddio’r cwrs 6 mis fel arall, felly mae angen dechrau chwilio am y bobl iawn – yn yr ychydig eiliadau sydd gen i cyn i ni fynd â’r plant i nofio…;-)