Tydi gwyliau a plantos ddim yn ffit perffaith ar gyfer y busnes ‘gwaith dwfn’ ma…;-)
Ond eto, mae’r ddefod o gychwyn bob dydd efo pwt yn fan hyn, sydd wedyn yn syth bin yn f’atgoffa i bod angen sgwennu rhywbeth ar dudalen FB SSiW ac ail-bostio wedyn ar y blog, yn golygu bo fi’n cyflawni rhywbeth o werth bron bob dydd yn ddi-ffael, hyd yn oed efo’r plant o gwmpas.
Ambell i fore yn haws nag eraill, wrth gwrs – mae pawb arall dal yn eu gwlau rwan hyn, a finnau wedi codi, tacluso’r gegin, golchi llestri, cofio bo fi ar ddiwrnod 4 o ympryd 5 diwrnod, yfed guarana, a bwrw ati mewn distawrwydd hyfryd…