Dyma fi adref o Rydychen, wedi cyfarfod hynod bositif yno - ac efo rhestr hir o bethau i'w gwneud, a phenderfyniadau cymhleth i'w cymryd. Am heddiw, tra dwi'n gadael i bethau droi yn fy meddwl, af i ati efo creu mwy o hysbysebion - yn benodol, ar gyfer ein cwrs '6 Munud y Diwrnod', sydd … Parhewch i ddarllen Nôl yn y cyfrwy
Mis: Ionawr 2019
Ar fin dechrau teithio eto…
A dyma ni off... taith i lawr i Rydychen heddiw, sydd yn meddwl bydd hi'n anodd cael bore o feddwl clir... gormod o sŵn paratoi yng nghefn fy meddwl. Ond dyma cadw at y ddefod, a sgwennu pwt ar Facebook hefyd - ac wedyn, erbyn dydd Iau, dwi'n credu bydda i'n barod i dreulio mwy … Parhewch i ddarllen Ar fin dechrau teithio eto…
Rhywbeth fel trefn
Ia, dwi'n dechrau cael trefn arni eto... er gwaethaf gorfod deffro cyn hanner wedi 7 er mwyn dathlu penblwydd Angharad yn ddeg oed! Wedi dathlu, wedi cael nhw i'r ysgol ar amser, wedi clywed pwt amdani ar Radio Cymru wnaeth blesio'n fawr, wedi mynd â'r ci am dro, wrthi'n sgwennu hyn - ac yn barod … Parhewch i ddarllen Rhywbeth fel trefn
Dim mor hwyr â hynna
Weithiau, mae tipyn o'r amser 'meddwl am waith dwfn' yn diflannu - ond mewn ffordd dda. Hynny yw, dwi'n cael sgwrs efo Jesse, sydd yn gorfod bod peth cyntaf pan mae o mewn timezone heriol - ond mae sgwrs efo Jesse wastad yn gweithio fel rhyw fath o sesiwn ffocysu, felly fedra i ddim gweld … Parhewch i ddarllen Dim mor hwyr â hynna
Be’ ddudes i am ddechrau’r diwrnod?
O. Hanner dydd yn barod, a dyma fi'n gwneud y peth cyntaf ar fy rhestr beunyddiol... wps! Eto, weithiau mae'n rhaid cydnabod pan ti wedi blino - a dwi wedi blino. Dydd Iau wythnos diwethaf es i Gaerdydd am gyfarfod efo'r TUC - nos Wener bues i yn Llanelli am bwt ar Heno am Common … Parhewch i ddarllen Be’ ddudes i am ddechrau’r diwrnod?
Ac ymlaen i’r deng mlynedd nesaf…
Roedd yn braf cael pawb at ei gilydd ddoe - dan ni'n gobeithio gwneud hynny'n amlach. Ac roedd yn brafiach byth i fedru gyrraedd adref a chynnig gwaith i aelod newydd o staff - bydd yn galluogi ni i gynnig pecyn llawnach i'n dysgwyr Cymraeg...:-) Heddiw, mae gen i dipyn o waith 'dal i fyny' … Parhewch i ddarllen Ac ymlaen i’r deng mlynedd nesaf…
Mymryn o ddathlu
Gen i eithaf dipyn o bethau i'w gwneud heddiw - creu mwy o hysbysebion i'w profi, gwneud rhai o'r rhai presennol yn fideos, dechrau trafod efo rhywun am ein cwrs Sbaeneg dwys - ond bydd rhaid i'r rhan helaeth o hynna aros tan yfory. Achos heddiw, ffordd â mi lawr i Aberystwyth eto - y … Parhewch i ddarllen Mymryn o ddathlu
Byr ond cyson
Dyna'r amcan ar y funud, beth bynnag... Hyd yn oed ar ddiwrnodiau fel heddiw, pan fo rhaid i mi gasglu 'mhethau at ei gilydd a gadael fan hyn erbyn tua 11. Ond dwi'n gwneud hynny ar ôl diwrnod da arall o hysbysebu, ac efo tipyn o benderfyniadau i'w cymryd am strategaeth tyfu dros y mis … Parhewch i ddarllen Byr ond cyson
Peth cyntaf yn y bore
Ia, mae'n gorfod bod yn beth cyntaf yn y bore. Dim mwy o'r busnas yma o 'jesd delio efo cwpl o bethau ac wedyn gwneud y pytiau sgwennu'. Tydi hynna ddim yn gweithio, nac ydi? Sori, jesd nodyn i fi fy hun ydi hyn...;-) Diweddglo prysur ond difyr i'r wythnos - i lawr i Landysul … Parhewch i ddarllen Peth cyntaf yn y bore
Traed moch a helyntion eraill
Gwers newydd i mi - mae dal at ddefod beunyddiol yn fwy heriol byth pan mae llawer iawn yn mynd ymlaen - ond efallai yn bwysicach byth adeg hynny hefyd... Dwi'n cofio clywed hen stori am Gandhi yn dweud byddai angen awr i fediteiddio, un o'i swyddogion yn dweud bod dim amser, ac ynteu'n ateb … Parhewch i ddarllen Traed moch a helyntion eraill