Cyfnod y Nadolig drosodd, a nôl yn y cyfrwy – mwy neu lai, am fod fy nai yn aros efo ni am yr wythnos, felly fydd ‘nam fawr o lonydd yn fan hyn!
Ond amser clirio pen a bwrw ati – blwyddyn dylai fod yn gyffrous iawn i SSi, yn enwedig os bydd ymdrechion hysbysebu cynta’r flwyddyn yn rhai llwyddiannus.
Mi sgwenna i fwy am sut fath o gyfraniadau dwi’n meddwl byddai modd i ni wneud i gymdeithas sifig Cymru yn y man – heddiw, rhaid i mi heglu hi i sgwennu pwt annisgwyl am sut mae’n teimlo pan mae pawb yn lladd ar Jeremy Vine am roi llwyfan i farn wrth-Gymraeg, ac wedyn mae o’n cysylltu er mwyn trafod dysgu Cymraeg ei hun… 😉