Ww, diwedd yr wythnos!

Wel, mae cyhoeddi bob dydd ar Facebook eisoes wedi arwain at ein post mwyaf llwyddiannus erioed o ran faint o bobl mae wedi cyrraedd heb unrhyw gost hysbysebu – felly mae’r busnes ffocws/cysondeb yma yn werth ei halen, am wn i… 😉

Diwrnod meddwl piau hi heddiw, ar ôl cyhoeddi ar Facebook a’r blog eto.

Mae tipyn i’w ystyried.

Mae Jesse wedi trafod rhoi arian sylweddol i mewn i’n gwaith hysbysebu, gan ei fod o mor hyderus yn yr ystadegau – sydd yn rhywbeth dwi angen trafod yn fanylach efo Iestyn pan bydd o adref o Ffrainc, ond sydd yn agor posibiliadau newydd.

Byddwn ni’n rhedeg prawf hysbysebu i’r cwrs 6 mis yn syth ar ôl y Nadolig heb y cynnig i dalu’n fisol – os bydd y rhifau yn gweithio efo hynna, byddai modd cynyddu ein gwariant hysbysebu yn sylweddol (efo cymorth Jesse) ym mis Ionawr – gall arwain at dwf sylweddol i’r cwmni.

Mae’n teimlo fel bod ni’n agos iawn rwan at fedru cynyddu beth dan ni’n cynnig a faint o bobl dan ni’n cyrraedd – efallai na fydd cefnogi prosiectau iethyddol eraill ddim mor bell i ffwrdd â hynna wedi’r cyfan…;-)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s