Ddoe, wnes i rannu ‘cryfhau’r Gymraeg’ yn ddwy: cynyddu nifer o ddysgwyr llwyddiannus, a chefnogi prosiectau ieithyddol.
Yr un gyntaf, wrth gwrs, ydi beth mae SSiW yn trio gwneud – ond mae’n werth nodi bod y manylder eisoes yn cynnig gogwydd mymryn yn wahanol ar ein gwaith.
Os dan ni’n anelu at gynyddu faint o ddysgwyr llwyddiannus sydd, dan ni angen gwneud tri pheth:
- Adeiladu cwmni efo llif arian llwyddiannus sydd yn gallu tyfu
- Cyrraedd mor eang â phosib (hynny yw, dydi cyrsiau dwys preswyl ddim yn ddigon da ar gyfer yr amcan hon)
- Sicrhau bod y broses dysgu yn llwyddiannus (sydd yn galw am fireinio’r arddull o hyd, ond hefyd am fod yn barod i esbonio/profi bod yr arddull yn gweithio i bobl sydd yn amheus amdani)
O ran camau gweithredu, mae hynny’n edrych fel:
- cynyddu trosiant y cwmni (yn y Gymraeg, ond hefyd efo ieithoedd eraill)
- gwella’r methodoleg (a/neu ychwanegu cyrsiau penodol) a gwella sut dan ni’n cyflwyno/esbonio’r methodoleg
- hyrwyddo’n well ac yn ehangach
Ac yn hynny o beth, mae’r manylu wedi cyrraedd rhywbeth sydd yn edrych fel cynllun gwaith – os bydda i’n gwneud rhywbeth bob dydd sydd yn cyfrannu at un o’r pwyntiau hynny, dwi’n gallu bod yn weddol sicr fod o’n cyfrif fel ‘gwaith dwfn’.
A dyna, digwydd bod, ydi heddiw – diwrnod wyneb-yn-wyneb efo Iestyn a Jesse i gael trefn unwaith ac am byth ar ein sustemau adrodd/rhagweld, er mwyn bod yn sicr iawn faint dan ni’n gallu hysbysebu dros y tri neu bedwar mis nesaf.
O gael y maen i’r wal efo hyn heddiw, bydd syniad llawer cliriach o sut a phryd bydd modd cynyddu trosiant – byddai wedyn yn gwneud hi’n haws gosod amser penodol i weithio mwy ar y methodoleg.
O ran cefnogi prosiectau ieithyddol – dan ni’n talu ychydig bach i Nation.cymru ar y funud, ac yn gobeithio bydd modd parhau/cynyddu – a dan ni hefyd yn trio gweithio allan sut i ddefnyddio trefn affiliate i hyrwyddo ein cyrsiau ni mewn ffordd sydd yn cefnogi prosiectau eraill.
Ond mwy am hynna yfory…