Gobeithio na fydd apwyntiad nesaf mam efo’r deintydd ddim am 9.15 ar fore mor wlyb a gwyntog…;-)
Reit, lle o’n i? O, ia, amcanion mawreddog – adeiladu Cymru well trwy gryfhau’r Gymraeg a chryfhau cymdeithas yn gyffredinol.
Wn i, mae hynna’n dal i swnio’n haniaethol, niwlog. Ond cam wrth gam…
Sut mae cryfhau’r Gymraeg? Hynny yw, o ran beth dwi’n gallu gwneud fel unigolyn.
Dwi’n gweld o’n rhannu yn ddwy:
- cynyddu’r nifer o ddysgwyr llwyddiannus
- cefnogi prosiectau ieithyddol
Ac wedyn, beth ydw i’n gallu gwneud i gyfrannu at gryfhau cymdeithas?
- creu swyddi o safon
- helpu pobl cyflawni eu potensial a byw bywyd da
- magu plant hyderus, hapus
Mae hynny dal yn bell o fod yn fanwl – ond eisoes mae wedi cau allan rhai pethau byddwn i efallai wedi cael fy nhynnu tuag atyn nhw, ond sydd ddim mewn gwirionedd yn cyfrannu at y prif amcan.
Af i yn fanylach i mewn i’r is-benawdau yma dros y diwrnodiau nesaf, bydd yn dechrau dangos sut mae hyn yn helpu fi i adnabod y gwaith dwfn dylwn i fod yn ffocysu arni.