Blaenoriaethau

Tipyn i’w wneud heddiw – y math o ddiwrnod ‘dal i fyny ar ôl y penwythnos’ byddai wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain fel rheol – ond mae’r arfer o gychwyn efo sgwennu nodyn yn fan hyn ac wedyn cyfraniad ar Facebook yn dechrau sadio gen i erbyn hyn.

Mae’n deimlad braf i gyflawni o leiaf un peth clir bob dydd sydd ar fy rhestr o bethau strategol sydd eu hangen – yn hytrach na rhywbeth sydd yn ymateb i bethau eraill. Gwaith dwfn yn hytrach na gwaith prysur…

Pan wnes i ddechrau gweithio allan blaenoriaethau, yr her (yn y llyfr ‘Deep Work’) oedd i adnabod un neu ddau prif amcan bywyd.

Mae pethau fel hyn yn gallu gwneud i rywun deimlo’n anesmwyth – mwyaf gyffredinol mae dy amcanion, mwyaf fawreddog – breuddwydio am newid y byd yn hytrach na chydnabod beth mae un unigolyn yn gallu cyflawni.  Ond eto, mae gweld sut mae’r gwahanol pethau mae rhywun yn eu gwneud yn plethu (neu beidio) yn gymorth ymarferol.

Ar ôl sgwennu a dileu eithaf dipyn o bethau (fy ffordd arferol o ffeindio allan beth dwi’n meddwl…;-)) beth oedd gen i yn y pen draw fel prif amcan oedd ‘helpu adeiladu Cymru well’.

I fi, mae hynny wedyn yn rhannu yn ‘cryfhau’r Gymraeg’ a ‘cryfhau cymdeithas’ (er bod llawer mewn cyffredin efo’r ddau, wrth gwrs).

Wedyn, mae angen gweld y prif amcanion o dan y ddau bennawd yno – ond geith hynna aros tan yfory… 🙂

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s