Wnes i gychwyn yr arfer beunyddiol yma er mwyn mynd yn fwy disgybledig yn y boreau, ac mae wedi helpu efo hynna.
O’n i hefyd isio gwella fy ffocws ar ‘waith dwfn’ – ac wedi dechrau gwneud y gwaith asesu sydd angen ar gyfer hynna – ond mae hynna wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain braidd, efo annwyd a gwaith ar y llif arian.
Ond mae’r patrwm o sgwennu bob bore yn gweithio’n addawol, ac mae’n amser i fwrw ati efo mapio gwaith dwfn yn well – rhywbeth i wythnos nesaf.
Mae wythnos nesaf hefyd yn gweld ein mentor busnes ni, Jesse, yn cyrraedd o Los Angeles am ryw 10 ddiwrnod. Mae o’n hyderus iawn mae un sesiwn olaf sydd angen o ran gweithio allan y llif arian cyn bydd modd i ni gynyddu gwariant hysbysebu a dechrau tyfu’n gynt. Dwi’n edrych ymlaen at y sesiwn yna yn fawr iawn – dwi’n teimlo fod o’n iawn bod ni’n agos iawn ati erbyn hyn.
Ac wedyn, bydd modd ffocysu ar gynyddu a gwella ein cyrsiau, a chynyddu ein staff a gwella sut dan ni’n edrych ar eu hôlau nhw.