Mae heddiw yn mynd:
Dyddiadur. Darn am SSiW ar gyfer FB a’r blog a ballu. Sgwrs efo Iestyn am y rhagolygon ariannol – wrth i mi ddechrau deall y model yn well, dan ni’n agosau rwan at weithio allan sut i’w addasu ar gyfer ffigyrau gwahanol o incwm rhagweledig. Mae’n teimlo fel gwaith digon sych, ond hefyd fel cynsail hanfodol bwysig i’r cwmni.
Wedyn, mae fy mam angen mynd i siopa erbyn tua 1 o’r gloch, dwi angen trio cael sgwrs efo fy nhad (sydd yn byw yng Ngwlad Thai, lle mae fy hanner brawd wedi’i garcharu am werthu cyffuriau), wedyn plant o’r ysgol, i karate, ac adref am ‘movie night’ nos Wener.
Na, tydi dydd Gwener byth yn broblem o ran ffocws. Dim amser i beidio!