Arian, ymgyrchu a chysondeb

Cychwyn araf arni heddiw – mae’r saer coed wedi cyrraedd i drwsio llawr stafell fyw y caban (neu hafoty, meddai Bruce – dwi’n eithaf licio hynna), felly mae fy mam i lawr efo ni – ond mae pawb mwy neu lai yn setlo erbyn hyn, a Catrin wedi cilio er mwyn gweithio ar ail ddrafft ei llyfr hi – angen gorffen cyn y Nadolig, meddai hi!

Ar ddiwrnodiau fel hyn, mae patrymau cychwyn dydd yn help mawr – heblaw am ddisgyblaeth ‘sgwennu nodyn dyddiadur am y diwrnod i ddod’ ac wedyn ‘pwt ar gyfer FB ayyb’, byddai fy mhen i ar chwal braidd.

Ges i daith difyr pnawn ddoe i lawr i Aberystwyth, i gael gair efo Siôn ac wedyn i fynychu cyfarfod cangen YesAberystwyth – criw da iawn o bobl efo llawer o angerdd a llawer o syniadau – mae’n mynd i fod yn gyffrous gweld beth byddan nhw’n cyflawni yn y flwyddyn nesaf.

Ac, wrth gwrs, dan ni’n dal i fwrw ymlaen efo’r rhagolygon ariannol – wedi lleihau ein hysbysebion dros y Nadolig, sydd i’w weld yn gyfnod distaw ar gyfer cychwyn cyrsiau Cymraeg, ond efo’r bwriad (os bydd y rhifau i gyd yn iawn) o fwrw ati eto ym mis Ionawr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s