Dydd Sul distaw

Fel bod ‘na ffasiwn beth…;-)

Ond ges i gyfle i dreulio rhywfaint ar y syniadau daeth allan o gyfarfod YesCymru yn Llanfair-ym-Muallt ddoe, wrth eistedd efo panad yn y Blac tra bod Angharad yn parti penblwydd ei chefnithr yn yr Hwylfan.

Bydd Siôn yn wych fel cadeirydd – bydd yn egnïol, yn bositif, yn weithgar.  Mae cryn dipyn o brofiad ar y pwyllgor ac mae’n argoeli’n dda.

Mae gen i ddiddordeb ar yr ochr weithredol – dim stwff manwl cyfansoddiadol sych (melltith y mudiad cenedlaethol, yn fy marn i!) ond pethau ymarferol o ran sut i weithio fel tîm, sut i gynnal a chefnogi ein gilydd (ar y pwyllgor canolog ac yn ehangach), sut i siarad a gweithio yn agored, sut i anghytuno heb ffraeo. Bydd yn ddiddorol gweld sut bydd patrymau gweithio y pwyllgor newydd yn datblygu dros y misoedd nesaf.

Wnes i hefyd sgwennu rhestr o syniadau ar gyfer postiadau ar dudalen Facebook SSi – digon ar gyfer y mis nesaf – mae’r disgyblaeth o dynnu allan un pwynt canolog ar y tro yn werthfawr iawn i mi.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s