Mae un bore o salwch yn rhywbeth i rolio dy lygaid arni. Cilwenu hyd yn oed, mewn ffordd eironig.
Erbyn yr ail fore, does gena i ddim mynadd o gwbl, efo fi fy hun ta neb arall ‘chwaith.
Gwely oedd hi ddoe, yn gwneud gwaith ar ddeall ein sustemau rhagweld llif arian – oedd yn teimlo fel niwl am y rhan helaeth o’r diwrnod, ond sydd yn dechrau gwneud synnwyr rwan, efallai yn rhannol diolch i dreulio cymaint o amser yn ffocysu arnyn nhw.
Heddiw, dwi angen swnio’n gall am un alwad efo cyhoeddwr mawr – y cam cyntaf byddai’n medru arwain at gychwyn dawns hirach, gobeithio – a finnau’n swnio fel cymeriad mewn Casualty – yr un ti’n gwybod yn iawn bydd wedi gwaethygu o’r peswch gwreiddiol yn fuan, efo’r pla erbyn hanner ffordd, ac yn farwolaeth ifanc trist arall erbyn y diwedd.