Cychwyn detox digidol

Dwi’n sicr iawn (fel arfer – mae’n un o ‘ngwendidau) bod yr hyn mae Cal Newport yn ei ddweud yn ‘Deep Work‘ am ddefnyddio technoleg yn llai yn hollol iawn.

Ond does dim byd hawdd am newid patrymau bywyd. Bues i trwy’r dydd ddoe oddi ar y dyfeisiadau, ac yn teimlo hynna’n llesol – yn teimlo bo fi ar fy ennill, ac yn cael treulio mwy o amser nag arfer efo fy mab.

Ond gyda’r nos, wedi mwy o gecru annifyr rhwng y plant, dyma fi’n cyrraedd ‘ngwely ac yn penderfynu cymryd sbec bach sydyn ar y ffôn.

Hanner awr nes ymlaen, wnes i sylweddoli bod fy ymennydd yn ôl yn y cawl – Trump! Brexit! Bocsio! IndyRef! Austerity! Russia! – ac oedd y llonyddwch oedd wedi bod yn magu momentwm yn ystod y dydd ar chwal yn llwyr.

Ond eto, mi ges i flas.

Felly, trio eto heddiw…

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s