‘Agored i’ch clwyfo’ meddai Bruce

Dwi ddim am sgwennu llawer ar benwythnosau, ond dwi isio cadw’r arfer i fynd, felly pwt bach yn ddi-ffael ydi’r amcan.

Dwi wrthi’n darllen llyfr o’r enw ‘Dare to Lead‘ ar y funud, gan Brené Brown – cyflwynodd sgwrs TEDx ar vulnerability (neu fod ‘yn agored i’ch clwyfo’, meddai Bruce!). Mae’n ddiddorol iawn hyd yma – dwi’n teimlo ar y cyfan nad ydw i wedi bod yn fawr o arweinydd ar dîm SSi hyd yn hyn, ac mae’r llyfr hwn fel tasai’n herio fi i feddwl mwy amdani ac i wneud yn well.

Mae’r syniad sylfaenol – bod pobl yn bobl boed yn eu gwaith neu adref, a bod angen i strwythurau gweithleoedd gydnabod hyn yn llawer gwell na maen nhw – yn apelio’n fawr iawn, ac yn agos iawn at y math o bethau sydd ar fy meddwl wrth ystyried sut i ddelio efo tyfu fel cwmni.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s