Ddoe, wnes i orffen llyfr o’r enw ‘Deep Work‘. Cafodd ei argymhell i mi gan Jesse, ffrind o Los Angeles sydd yn helpu SaySomethingin i hyrwyddo ein cyrsiau ar Facebook – a dwi’n hynod ddiolchgar iddo fo am dynnu fy sylw ato fo.
Mae’n llyfr digon heriol, yn ei ffordd – yn pwysleisio cymaint o amser dan ni’n colli ar waith ‘prysur’, fel ateb ebyst, neu ar wefannau cymdeithasol neu newyddion – a chyn lleied mae hyn fel arfer yn ychwanegu at ein bywydau.
Mae wedi gwneud i mi sylweddoli bod mwy eto i mi wneud i osgoi gwaith ‘prysur’, ac i ffocysu yn gyson ar waith mwy heriol a mwy werthfawr – fel datblygu ein methodoleg ym mhellach, a’r ffyrdd dan ni’n cyflwyno’r methodoleg i’n dysgwyr.
Mae hefyd wedi gwneud i mi feddwl am fy nghyfrifoldebau i’n staff – i beidio osgoi gwaith ‘prysur’ trwy drosglwyddo fo i gyd i bobl eraill, ond i wneud yn siwr bod ni’n lleihau gwaith ‘prysur’ o fewn y cwmni cymaint â phosib.
Dwi ddim wedi rhoi cynllun at ei gilydd eto, ond dwi’n benderfynol i dorri i lawr eto byth ar faint o amser dwi’n treulio yn ateb ebyst neu’n siarad efo pobl (neu ddarllen yn unig) ar Facebook a Twitter.
Eironig cychwyn ar y broses trwy atgyfodi hen flog?
Efallai – ond mae un peth wedi dod yn glir i mi eisoes, sef nad ydwi’n siwr iawn pa waith ‘dwfn’ dylwn i ffocysu arno fo mwyaf – datblygu’r methodoleg, ia, ond mae pethau eraill (a ffiniau i faint o amser dwi’n gallu ffocysu ar y methodoleg, hefyd).
O’n i’n cadw dyddiadau yn gyson pan oeddwn i’n ifanc – dwi’n gobeithio bydd ail-afael yn yr arfer yn helpu fi cyrraedd dealltwriaeth gwell o beth yn union ydi fy mlaenoriaethau.
Un sylw am “‘Gwaith Dwfn’ a strwythur bywyd”